Bwletin Newyddion

Neges oddi wrth Hal Moggridge OBE, VMH, PPLI, FIHort, RIBA, AAdipl.
Cadeirydd-Sefydlydd Ymddiriedolaeth Penllergare

 

Am ddeng mlynedd, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gweithio i warchod ac adfer Coed Cwm Penllergare. Mae’r dirwedd eithriadol o hardd hon ar gyrion Abertawe yma i bawb ei mwynhau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod mor barod i roi eu hamser, eu hegni a’u syniadau i wneud y cyfan yn bosibl.

Erbyn hyn mae pob un ohonom wedi cael hwb mawr gan fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi grant o £2.3 miliwn i ni fel rhan o’i rhaglen ‘Parciau i Bobl’.

Dan arweiniad archif unigryw John Dillwyn Llewelyn o ffotograffiaeth o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddwn yn cadw ac yn atgyweirio nodweddion hanesyddol trawiadol, gan gynnwys ei arsyllfa seryddol, yn ogystal â’r llyn uchaf, terasau a llwybrau cerdded. Caiff planhigion addurnol eu hadfer a chaiff y bônt fwa cerrig ei hail-godi.

Byddwn hefyd yn datblygu mwy o ffyrdd i bobl gymryd rhan drwy wirfoddoli yng Nghoed Cwm Penllergare, o waith ymarferol ar y tir, i wneud penderfyniadau. Bydd dysgu a hyfforddiant yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel.

Ar yr un pryd, gan fod Coed Cwm Penllergare mor bwysig i bobl leol fel man heddychlon a thawel, byddwn yn cadw’r teimlad arbennig sydd i’w gael yma o fod ar ymyl y gwylltir.

Mae’r grant hael hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn fuddsoddiad anferthol yn Abertawe a’i phobl ond mae hefyd yn cynnig her enfawr. Nid yw Coed Cwm Penllergare yn gyfrifoldeb gan y Cyngor. Yr elusen fach ac annibynnol hon sy’n gyfrifol am hynny. Er mwyn ein galluogi i barhau, mae’n rhaid i ni godi tua £600,000 ar ffurf cyllid partneriaeth, mewn arian parod neu gymorth gwirfoddol (mewn nwyddau). Mae rhywfaint o’r cyllid partneriaeth hwn wedi’i sicrhau gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae Coed Cwm Penllergare yn un o’r ychydig grwpiau o barciau a gerddi a noddir gan Croeso Cymru ar gyfer buddsoddi fel Canolfan Ragoriaeth ym mhrosiect “Un Ardd Hanesyddol”. Caiff cysylltiadau â Choed Cwm Penllergare eu hariannu ar wahân gyda chymorth gan Raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae’r ardal gyfan yn atyniad diddorol i bobl leol ac ymwelwyr yn y rhan hon o’r Cymoedd.

Gan fod Coed Cwm Penllergare yn eiddo i berchenogion preifat, mae’n rhaid i ni ymrwymo hefyd i brydles hir a thalu rhent. Mae’n rhaid i ni osod seiliau cadarn i’w cynnal yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd parhau i leihau costau a chanfod ffyrdd o greu incwm yn flaenoriaeth barhaus.

Hyd yn hyn rydym wedi codi llawer o’r cyllid partneriaeth ac mae mwy o gyllid wedi’i addo. Ond os oes gennych chi, neu bobl rydych yn eu hadnabod, syniadau ar gyfer codi’r gweddill, cysylltwch â ni.

Yn y cyfamser, fy mhrif neges yw hyn. Os ydych wrth eich bodd â Choed Cwm Penllergare ac yn eu mwynhau fel yr ydym ni, a’ch bod am eu cadw ar agor, yn ddiogel ac yn groesawgar i’n plant ni a’u plant nhw, ymunwch â ni drwy helpu i ofalu amdanynt heddiw.

 

Gallwch gysylltu ag Ymddiriedolaeth Penllergare ar 01558 650735, neu anfonwch neges e-bost at Fel arall, gallwch ysgrifennu at Hal Moggridge, d/o Coed Glantawe, Esgairdawe, Llandeilo SA19 7RT.

 

 

 

Yn ol i dudalen Croeso