Yr Hanes Y Prosiect Cymuned Rhaglen Addysg Beth sy’n digwydd Archif Cysylltiadau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

   Pam yr Ymddiriedolaeth?

Ers mwy na degawd mae cytundebau cynllunio wedi methu darparu’r parc gwledig a addawyd o ansawdd a diogelwch addas ym Mhenllergare. Maent hefyd wedi methu amddiffyn deunydd hanesyddol y parc a’r gerddi a gofrestrwyd gan Cadw (Graddfa II).


   Beth yw’r Ymddiriedolaeth?

Cafodd Ymddiriedolaeth Penllergare – The Penllergare Trust ei hymgorffori ym mis Mai 2000 fel cwmni cyfyngedig trwy warant, rhif 4004593. Mae hefyd yn elusen gofrestredig, rhif 1082128.


   Beth mae’r Ymddiriedolaeth ei eisiau ar gyfer Penllergare?

  i hyrwyddo amddiffyn, gwarchod ac adfer tirwedd ddiwylliannol Penllergare.

  i amddiffyn amrywiaeth bywyd gwyllt Penllergare.

  i ddarparu gwerddon ymysg y trefoliad o’i hamgylch ar gyfer mwynhad tawel am ddim gan bobl leol a phobl ar droed.

  i hyrwyddo gwybodaeth am a gwerthfawrogiad o Benllergare, ei hanes a’i fioamrywiaeth.

  i ddarparu hyfforddiant a chyflogaeth gynaliadwy (gan gynnwys gwirfoddolwyr).


   Pwy yw’r Ymddiriedolwyr a’r Staff?

 HAL MOGGRIDGE, OBE PPLI VMH FIHort RIBA AAdipl, Cadeirydd.

Ar un adeg ef oedd Athro Pensaernïaeth Tirweddau ym Mhrifysgol Sheffield, cyn-Lywydd y Sefydliad Tirweddau a chomisiynydd y Comisiwn Brenhinol dros Gelfyddyd Gain. Aelod o Banel Pensaernïol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar fwrdd y Sefydliad Tirweddau, Cafodd Medal Fictoria er Anrhydedd gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Mae comisiynau proffesiynol Hal wedi cynnwys y Parciau Brenhinol yn Llundain, gerddi’r RHS yn Wisley, Parc Blenheim, Aberglasne a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae ganddo gysylltiadau teuluol â Phenllergare oherwydd priododd ei hen dad-cu â chwaer hynaf John Dillwyn Llewelyn, Fanny.

 RICHARD MORRIS, MPhil, FRPS, Ymddiriedolwr

Ac yntau’n briod ag aelod o’r teulu Dillwyn Llewelyn, ef a dynnodd sylw pobl at bwysigrwydd hanesyddol Penllergaer. Mae Richard wedi ysgrifennu’n helaeth ar Llewelyn ac ef yw awdur Penllergare - a Victorian Paradise, (allan o brint). Mae’n gyn-gadeirydd Grwp Hanesyddol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol ac mae’n ddarlithydd i Gymdeithas Genedlaethol Cymdeithasau’r Celfyddydau Addurnol a Chain.

 STEPHANIE EVANS, BA (Hons) Town and Country Planning. Dip. Arch Con. Ymddiriedolwr

Ar ôl hyfforddi fel cynlluniwr tref, bu Stephanie’n gweithio gyda Chynghorau Dinas Caerdydd ac Abertawe, yn arbenigo mewn cadwraeth a chynllunio trefol. Wedyn daeth yn Bennaeth Rheoli Datblygiadau i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cyn ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel Curadur De Cymru.

 GERALDINE DONOVAN, B.Sc. (Cydanrhydedd), Dip.L.D., M.L.I. (Siartredig). F.R.S.A. Ymddiriedolwr

Ar ôl gweithio yn Siapan a Thonga fel pensaer tirwedd, dychwelodd Geraldine i Gymru, ei mamwlad, a bu’n rheolwr prosiectau adfer yng Ngerddi Dyffryn er 1997. Mae hi wedi bod ag amrywiaeth o swyddi gwirfoddol, gan gynnwys eistedd ar fwrdd y cyfarwyddwyr ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru a hefyd Academi Dylunio Cymru, Cadeirydd Sefydliad Tirweddau Cymru, aelod o gyngor Sefydliad Tirweddau y DU a beirniad ar gyfer Cynllun Gwobrau Baner Werdd yr Ymddiriedolaeth Ddinesig. Ar hyn o bryd mae hi’n aelod o bwyllgor Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ar gyfer De a Chanolbarth Morgannwg.

 MICHAEL NORMAN, Ysgrifennydd y Cwmni

Ers ymddeol fel is-gyrnol yng Nghatrawd Frenhinol y Tanciau, mae ef wedi arbenigo mewn rheoli partneriaethau elusennau gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus. Yn fwyaf diweddar bu Michael yn cymryd rhan mewn amddiffyn a gwarchod gerddi hanesyddol yng Nghymru, a bu’n canolbwyntio ar gynllunio ac ariannu adfer Hafod Uchtryd ers dros 12 mlynedd. Bu’n ymgyrchu ar ran Penllergare am o leiaf yr un maint o amser.

 RAY BUTT, MSc. DMS. PGCE. M.I.L.M., Rheolwr Prosiectau

Yn dilyn gyrfa mewn gwerthu a marchnata, roedd Ray yn gyfrifol am 16 o flynyddoedd am Barc Margam, cyn mynd yn Bennaeth Gweithrediadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ymunodd ag Ymddiriedolaeth Penllergare yn 2009.

 JENNIE EYERS, BA. Cert.Ed. Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol ac Addysg

A hithau wedi’i hyfforddi fel actores ac fel athrawes lleferydd a drama, dilynodd Jennie yrfa yn y theatr ac ar y teledu fel actores a chyfarwyddwr. Yn ddiweddarach bu’n ymgynghorydd mewn hyfforddi a datblygu addysgol ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ac yn y sector busnes.

 

Mae Cymdeithas Bro Gwyr ac Ymddiriedolaeth Datblygu Blaen-y-Maes, Portmead a Phenplas yn darparu arsyllwyr yng nghyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr. Caiff preswylwyr lleol a defnyddwyr Coedwig y Cwm eu cynrychioli hefyd.



Ymddiriedolieth Penllergare - The Penllergare Trust

Elusen Cofrestredig 1082128 Registered Charity
Cwmni Cyfyngedig 4004593 Limited Company