Hyd at Heddiw
Cafodd dirwasgiadau economaidd a rhyfel effaith niweidiol ar gymaint o ystadau yn ystod yr
ugeinfed ganrif ond gwnaeth lleoliad Penllergare ar ymyl drefol Abertawe yr ystad yn arbennig o agored i niwed
gan esgeulustod, fandaliaeth a datblygiadau a oedd yn ennill tir.
Codwyd gobeithion am wrthdroi’r dirywiad hwn yn y 1990au gydag addewid o barc gwledig i’w gyfnewid
am ganiatâd cynllunio. Ond ni chafodd yr addewid erioed ei gyflawni ac aeth Coedwig Cwm Penllergaer
yn fwy diffaith. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm iawn.
Yn ffodus, parhaodd craidd y dirwedd wedi’i chynllunio, yn ogystal â’r arsyllfa, bron yn
gyflawn. Hefyd, gwerthfawrogwyd Coedwig y Cwm gan bobl leol am ei hunigrwydd, ei golygfeydd a’i bywyd
gwyllt, ac yn arbennig gan blant anturus.
Er mwyn cydnabod pwysigrwydd Penllergare i hanes a diwylliant De Cymru, ac yn absenoldeb pobl eraill a oedd
yn fodlon neu’n abl i weithredu, cafodd Ymddiriedolaeth Penllergare ei ffurfio yn 2000, gydag adfer,
adfywio, a budd y cyhoedd ar frig ei hagenda.
Y cam cyntaf oedd cynnwys pobl leol ac mae rhaglen Ymgysylltu ac Addysg Gymunedol yr Ymddiriedolaeth yn dechrau
(yn 2008) ei 8fed flwyddyn. Y cam nesaf oedd adeiladu’r corff ymchwil cynhwysfawr a manwl a oedd yn
hanfodol er mwyn llywio rheoli yn y dyfodol. Yn fwy diweddar, bu’n bosibl dechrau gwneud Coedwig y Cwm
yn fwy diogel ac ymarferol i ragor o bobl ei mwynhau. Mae Fforwm Coedwig Cwm Penllergare (grwp sy’n
cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid) yn darparu cyngor amhrisiadwy.
|
|
Y Ffordd Ymlaen
Datganiadau o Fwriad
Mae Cynllun Cadwraeth drafft yr Ymddiriedolaeth yn dweud y bydd Coedwig y Cwm yn cael ei rheoli fel endid
gan gydnabod bod ei dair rhan wahanol yn gyflenwol ac yn annibynnol. Y rhannau hyn yw:
Gerddi’r Teras
Yn y Cwm uchaf bydd Gerddi’r Teras yn dangos tirweddu rhamantus o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg
yn yr arddull Bictiwrésg ac yn dathlu ei hanes a phwysigrwydd diwylliannol amlweddog. Wedi’i
llywio gan doreth o ddelweddaeth gyfoes bydd y cwm â therasau serth a phlaniadau egsotig, ac ambell
i gipolwg a swn dwr, yn cyfuno i ddenu’r ymwelydd i fforio’r ‘lle dirgel a hudol hwn.’
Cyfadeilad y Gerddi Muriog
Wedi’i lleoli mewn coetir, yn gyfoethog o ran rhywogaethau egsotig, a’r tu ôl i waliau cerrig
uchel bydd garddwriaeth wedi’i drilio’n dda ac wedi’i meithrin yn fanwl, sy’n adleisio
arfer gerddi cegin Fictoraidd ar eu hanterth, yn gyson â dulliau organig modern. (Sylwer: nid yw ardal
y gerddi muriog ar agor i ymwelwyr ar hyn o bryd)
Coed Nydfwch
Yn cynrychioli rhyw 65% o’r holl ardal, yn y Cwm Isaf ac yn cadw ei gwylltineb hanfodol, caiff Coed
Nydfwch ei rheoli yn bennaf fel coetir cymunedol, yn canolbwyntio ar amddiffyn ac adfywio coetir a bywyd gwyllt
yn barhaus, gyda chyfranogiad helaeth gan bobl leol.
|