Yr Hanes
Ymddiriedolaeth Penllergare
Y Prosiect
Cymuned
Rhaglen Addysg
Beth sy’n digwydd
Sut gallwch chi helpu
Albwm Teuluol JDL
Archif
Cysylltiadau

 

Croeso

Ar anterth ei ffyniant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd ystad Penllergare yn enghraifft amlwg o dirwedd bictiwrésg, ramantus. Ei grëwr oedd John Dillwyn Llewelyn (1810-82), dyn sy’n enwog am ei gyfraniad i gynllunio tirweddau a garddwriaeth, a hefyd am ei arbrofion gwyddonol a’i ffotograffiaeth arloesol. Rhoddodd Penllergare ysbrydoliaeth iddo fynegi’r holl ddoniau hyn. Defnyddiodd John harddwch naturiol, mawreddog y safle yn ei gynllun mawr i greu tirwedd eidylig a gafodd ei phlannu ag amrywiaeth gyfoethog o goed, prysglwyni a phlanhigion egsotig.

 

 


Llun: Gaynor Hart

Llun: Jennifer Cloke

Ers dros hanner canrif mae Penllergare wedi cael ei ddifrodi a bron ei anghofio. Cafodd y plasty ei ddinistrio ac adeiladwyd swyddfeydd y cyngor yn ei le. Ychwanegodd datblygiadau a fandaliaeth at effeithiau esgeulustod. Cafodd rhan uchaf gerddi’r coetir ei dorri gan draffordd yr M4 ac erbyn hyn mae tai modern yn ffinio â’r gerddi muriog ac yn gorlifo ar y parcdir. Cafodd Ymddiriedolaeth Penllergare ei ffurfio yn 2000 fel ymgais i achub y dirwedd hanesyddol a diwylliannol hon rhag syrthio i ragor o ddiffeithwch. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o orffennol pwysig yr ystad a’r angen taer i amddiffyn ac achub y lle ar gyfer y dyfodol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig adfer Penllergare fel parc yr oedd hir ei angen ar gyfer Abertawe a Chymru.

 



Is- lwythwch y ffurflen aelodaeth yn fformat Adobe Acrobat
(Maint 265Kb – yn agored mewn ffenestr newydd)


Darllenwch ein dyddiadur gwe
www.penllergare.blogspot.com

Penllergare - dyma’r enw hanesyddol ar gyfer yr ystad, yn wahanol i gymuned ddiweddarach Penllergaer gyfagos.

 

 

Wedi’i chynllunio gan Ymddiriedolaeth Penllergare
Llety gwe a Chynnal y Safle gan
Orchardweb




Cliciwch ar y llyfr i gael gwybodaeth am sut i archebu

 

 

Ymddiriedolieth Penllergare - The Penllergare Trust

Elusen Cofrestredig 1082128 Registered Charity
Cwmni Cyfyngedig 4004593 Limited Company