Natur

Fe wnaeth cwm Afon Llan a’i hochrau serth ddarparu’r ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn a ddaeth yn un o’r tirweddau mwyaf rhamantaidd yng Nghymru.

Cafodd ei greu gan John Dillwyn Llewelyn a chafodd ei atgyfnerthu gan ei fab John Talbot Dillwyn Llewelyn. Fel llawer o deuluoedd bonheddig y cyfnod roedd gan y Dillwyn Llewelyns ddiddordeb byw mewn astudiaethau natur a’r  gwyddorau datblygol.

Watercolour by Emma Charlotte

Old Bridge

Penllergare Lliwgar

Daeth eu gweledigaeth o ddylunio a phlannu i’w hadnabod fel ‘yr arddull liwgar’ ac roedd tirfeddianwyr yn hoff iawn ohoni ym Mhrydain yn y cyfnod Fictoraidd cynnar.

Roedd dyddiau’r eidyl wledig a amlygwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown a’i ddilynwyr wedi mynd; erbyn hyn gwelwyd (ac yn bwysicach ‘profwyd’) natur fel rhywbeth mwy gwyllt, anffurfiol, llai rhagweladwy a mwy gothig.

Gwelwyd natur fel olyniad o olygfeydd, fel ‘darluniau’, (gan efelychu rhai hynny’r arlunwyr Poussin a Claude) ac a ddyluniwyd i symbylu’r synhwyrau ac emosiynau fel ei gilydd.

Ym Mhenllergare, fe wnaeth John Dillwyn Llewelyn ddefnyddio harddwch naturiol y safle gan greu parc addurnol ag amrywiaeth ac awyrgylch mawr a’i lenwi â chymysgfa gyfoethog o goed a phrysgwydd a phlanhigion brodorol ac ecsotig. Yn ystod y 19eg ganrif roedd y casglwyr planhigion yn dod â rhywogaethau prin yn ôl o bob cornel o’r byd ac roedd Penllergare yn hapus iawn i’w derbyn.

Y Cynllun Mawr

Victorian Paradise

Cafodd ochrau’r cwm eu plannu’n bennaf gyda choed derw ond roeddynt hefyd yn cynnwys cegid, cypreswydd corstir, secwoias a chedrwydd gyda haen is o rywogaethau dethol ac amrywiadau o rododendrons ac asaleas gwydn, rhai ohonynt yn cael eu tyfu o hadau ym Mhenllergare.

Roedd y rhodfa newydd o’r de, gyda’i thri phorthdy, yn un o prosiectau mawr cyntaf John a mae’n dal yn gyfan i raddau helaeth heddiw.

Looking down on Upper LakeO amgylch y tŷ roedd gerddi mwy ffurfiol, cwrt tennis, tŷ haf a rhodfeydd, gyda llawer o lwybrau yn arwain i lawr i’r cwm, ar hyd derasau naturiol ac i lawr rhesi o risiau.

Y Llyn Uchaf (y’i galwyd y Pwll Pysgod gan John Dillwyn Llewelyn) islaw’r plasdy, oedd y mwy addurnol o’r ddau lyn.

Roedd ganddo dair ynys, gaban addurnol a orchuddiwyd gan rosys a ddefnyddiwyd fel tŷ cwch ac amrywiaeth o lilïau dŵr a blannwyd ar hyd yr ymylon.

Ar un pen, dyluniodd John raeadr o gerrig garw a chwarelwyd, sydd, heddiw, wedi dod yn ganolbwynt Penllergare.

Roedd y Llyn Isaf yn llawer mwy a dyma oedd yr hoff safle ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.

Roedd ganddo dŷ cwch ar y pen gogleddol gyda tho serth ac ystafell uwch, lle roedd y teulu’n cael picniciau, a glanfa i gychod ar yr ochr ddwyreiniol.

Adeiladwyd yr argae is o gerrig nadd, gyda fflodiardau a thwnneli i reoli llif y dŵr, a rhaeadr drawiadol.

Y Gegin a’r Ardd â Wal o’i Chwmpas

Roedd gan y mwyafrif o ystadau sylweddol erddi â wal o’u cwmpas er mwyn darparu ffrwythau a llysiau ffres i’r tŷ drwy gydol y flwyddyn. Ym Mhenllergare roedd y gegin a’r gerddi â wal o’u cwmpas yn cwmpasu pump erw ac yn cynnwys y tai gorfodi a phlannu allanol (â gwrych o’u hamgylch), cwrt ffrâm, tir melonau, tŷ a chysgodfa’r garddwr; ac roedd yr ardd fewnol, wedi’i warchod gan waliau uchel o gerrig, wedi’i gosod â gwlâu blodau chwarter wedi’u rhannu gan rodfeydd graean.

Roedd llwyn gwyntyllaidd a choed ffrwythau ar ffurf pyramid yn tyfu wrth ochr y llwybrau ac roedd coed eirin gwlanog yn tyfu yn erbyn y waliau. Â chymorth llawer o dai gwydr roedd y tymor ar gyfer yr holl frwythau wedi’i ymestyn.

Tyfwyd llysiau a ffrwythau meddal yn y gwlâu chwarter gydag ardal arall wedi’i rhoi i dyfu blodau ar gyfer y tŷ. Roedd ystafelloedd potio a storio a’r stofiau oedd yn rheoli’r system wresogi gymhleth wedi’u gosod yn y waliau.

Y Tŷ Tegeirianau

Orchid House Penllergare

Yng nghanol y gerddi â wal o’u cwmpas fe wnaeth John Dillwyn Llewelyn greu ei dŷ tegeirianau unigryw. Ers 1835 roedd e’n datblygu diddordeb mawr mewn tyfu ac arddangos tegeirianau ac ym 1836 ysgrifennodd at ei dad:

“Mae gan y (tŷ gwydr a wresogwyd gan) y Stôf addewid mawr; mae pawb yn gwybod hynny. Erbyn hyn rwyf wedi penderfynu gwydro cefn y stôf a oedd wedi’i gadael heb ei gorffen – bydd yn fach ac wedi’i roi i Degeirianau’n unig – 100 gradd o wres ac awyrgylch wedi’i drwytho â dŵr, dyma’r mwynhad rwyf yn addo imi fy hunan a’m anifeiliaid anwes – rwyf yn bwriadu iddyn nhw flodeuo yno a gorffwys wedi’r ymdrech mewn lle sychach a llai cynnnes”.

Mae erthygl a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer Cyfnodolyn y Gymdeithas Arddwriaethol (1846) yn goroesi fel tystiolaeth o’r dyluniad, gyda chynllun tir ac uchder a darlun o’r rhaeadr o waith creigiau.

Dysgwch ragor am ddiddordeb John yn y gwyddorau datblygol